Cynulleidfaoedd Lleol | Gogledd Ddwyrain yr Alban a'r Ucheldir a'r Ynysoedd
Oeddech chi'n gwybod bod modd i unrhyw sefydliad diwylliannol yn yr Alban gael cymorth am ddim i ddeall eu cynulleidfaoedd yn well?
O ganlyniad i gyllid gan Creative Scotland, ers 2019 mae pob sefydliad yn yr Alban wedi gallu cael gafael ar wasanaethau mewnwelediad am gynulleidfaoedd am ddim drwy dîm o ymgynghorwyr ac arbenigwyr cymorth Audience Agency.
Beth sydd ar gael am ddim?
Mae eich system docynnau'n ffynhonnell werthfawr o ddata am eich cynulleidfaoedd: cysylltwch y system i Audience Answers a throsi'r data i gael mewnwelediad o'r tueddiadau allweddol.
Gyda'n mewnwelediad tocynnau, gallwch chi ddarganfod:
-
O ba Awdurdodau Lleol mae eich archebwyr yn dod yn eich Adroddiad Lleoliad
-
O ba Segmentau ac Is-segmentau mae eich archebwyr yn dod yn eich Adroddiad Audience Spectrum
-
Mewnwelediadau misol i amseriad, amlder, cyfran yr ymwelwyr tro cyntaf a deinameg grŵp eich archebion gyda'ch Adroddiad Ymddygiad Archebu
-
Cipolwg ar eich metrics tocynnau allweddol yn eich Dangosfwrdd Trosolwg
Gall unrhyw sefydliad gael mewnwelediad gwerthfawr i'w cynulleidfaoedd drwy ofyn cwestiynau amdanynt ac am eu barn.
Mae ein harolygon cynulleidfa yn cynnwys:
-
Templed arolwg safonol gyda sawl dull darparu a hyd at 5 cwestiwn ychwanegol
-
Adroddiad arolwg y gallwch chi ei hidlo yn ôl ateb cwestiwn
-
Audience Spectrum i broffilio eich ymatebwyr
Gallwch gael y darlun llawn o sut mae eich cynyrchiadau'n perfformio ar hyd lleoliadau eich taith.
Mae ein hadroddiadau taith yn cynnwys:
-
Mewnwelediad sydyn a syml am y metrigau allweddol i gefnogi eich gwaith gwerthuso, marchnata a chynllunio i'r dyfodol
-
Map cynulleidfaoedd mewn fformat o'ch dewis
-
Cysylltu â lleoliadau'r daith ar eich rhan am ganiatâd i rannu tueddiadau
Does dim angen i chi fewngofnodi i bori trwy ein tystiolaeth i gael mewnwelediad a thueddiadau cynulleidfaoedd yn yr Alban a gweddill y DU.
-
Tarwch olwg ar ein Dangosfwrdd Data Gwerthiant yr Alban
-
Cael mewnwelediad allweddol ar bethau fel:
Digwyddiadau Cynefino sydd ar y Gweill
Cyflwyniad i Audience Answers ar gyfer sefydliadau yn yr Alban
Dydd Iau 3 Ebrill 2025 : 11:00 am - 12:00 pm & 2:00 pm - 3:00 pm
Yn rhoi sylw i'r adnoddau ar gwasanaethau sydd ar gael, gofynion cyllidwyr, a sut i osod popeth.
Archebwch eich lle am ddimCadwch mewn cysylltiad
Peidiwch â cholli cyfleoedd, gwaith ymchwil, newyddion o'r sector a diweddariadau ar gyfer Yr Alban.
Tanysgrifwch i'n cylchlythyrau