Audience Answers ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru

Oeddech chi'n gwybod bod modd i unrhyw sefydliad diwylliannol yng Nghymru gael cymorth am ddim i ddeall eu cynulleidfaoedd yn well?

O ganlyniad i gyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru, ers 2019 mae pob sefydliad yng Nghymru wedi gallu cael gafael ar wasanaethau mewnwelediad am gynulleidfaoedd am ddim drwy dîm o ymgynghorwyr ac arbenigwyr cymorth Audience Agency.

Beth sydd ar gael am ddim?

Mae eich system docynnau'n ffynhonnell werthfawr o ddata am eich cynulleidfaoedd: cysylltwch y system i Audience Answers a throsi'r data i gael mewnwelediad o'r tueddiadau allweddol.

Gyda'n mewnwelediad tocynnau, gallwch chi ddarganfod:

Cychwyn arni i gael mewnwelediad am docynnau am ddim

Gall unrhyw sefydliad gael mewnwelediad gwerthfawr i'w cynulleidfaoedd drwy ofyn cwestiynau amdanynt ac am eu barn.

Mae ein harolygon cynulleidfa yn cynnwys:

  • Templed arolwg safonol gyda sawl dull darparu a hyd at 5 cwestiwn ychwanegol

  • Adroddiad arolwg y gallwch chi ei hidlo yn ôl ateb cwestiwn

  • Audience Spectrum i broffilio eich ymatebwyr

Cychwyn arni gydag arolygon cynulleidfa am ddim

Gallwch gael y darlun llawn o sut mae eich cynyrchiadau'n perfformio ar hyd lleoliadau eich taith.

Mae ein hadroddiadau taith yn cynnwys:

  • Mewnwelediad sydyn a syml am y metrigau allweddol i gefnogi eich gwaith gwerthuso, marchnata a chynllunio i'r dyfodol

  • Map cynulleidfaoedd mewn fformat o'ch dewis

  • Cysylltu â lleoliadau'r daith ar eich rhan am ganiatâd i rannu tueddiadau

Archebu eich adroddiadau teithio am ddim

Does dim angen i chi fewngofnodi i bori trwy ein tystiolaeth i gael mewnwelediad a thueddiadau cynulleidfaoedd yng Nghymru a gweddill y DU.

Gweld mwy o dystiolaeth sector

Digwyddiadau Cynefino sydd ar y Gweill

Cyflwyniad i Audience Answers

Misol

Digwyddiad rheolaidd ar gyfer unrhyw un sydd heb ddefnyddio Audience Answers o'r blaen (neu os ydych chi am roi proc i'r cof).

Archebwch eich lle am ddim

Cadwch mewn cysylltiad

Peidiwch â cholli cyfleoedd, gwaith ymchwil, newyddion o'r sector a diweddariadau ar gyfer Cymru.

Tanysgrifwch i'n cylchlythyrau

Eich tro chi nawr...

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am Audience Answers a'ch awgrymiadau ynghylch sut gallwn ei wella.

Ewch draw i Gymuned newydd Audience Agency i leisio eich barn